Eleni mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi derbyn rhodd o £40,000 gan ffrindiau’r ŵyl.

Dyma’r rhodd fwya’ sydd wedi’i roi gan Ffrindiau Eisteddfod Ryngwladol Llangollen (FLIME) ers sefydlu’r gymdeithas yn 1973.

Dros y blynyddoedd, mae’r gymdeithas wedi codi bron i hanner miliwn i’r ŵyl flynyddol yn nhre’ Llangollen.

Mae’r arian yn cael ei godi trwy gyfrwng tâl aelodaeth y gymdeithas, gyda rhan o’r arian hefyd yn dod trwy gynnal boreau coffi trwy gydol y flwyddyn.

Mi lwyddodd y gymdeithas i godi £20,000 yn ychwanegol eleni ar ôl derbyn rhodd gan y diweddar Celia Jackson, a fu’n un o ffrindiau’r ŵyl ers dechrau’r 1980au.

Mae rhan o’i harian wedi cael ei roi i gefnogi’r cystadlaethau corawl, gyda rhan arall wedyn yn mynd i gronfa bwrsariaeth arbennig sy’n rhoi cymorth ariannol i bobol o dramor ddod i gystadlu yn yr ŵyl.

Hybu amrywiaeth ddiwylliannol

 “Mi gafodd y Gronfa Bwrsariaeth ei sefydlu yn wreiddiol gyda chymorth rhoddion y Ffrindiau, ac mae’n hyfryd cael y cyfle i gyfrannu at hybu lefel yr amrywiaeth ddiwylliannol yn y maes, trwy roi cymorth i bobol sydd ddim, oherwydd rhesymau ariannol, yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r llwyfan rhyngwladol arbennig hwn,” meddai Barrie Potter, cadeirydd y gymdeithas.

“Eleni, mae 22 grŵp sydd wedi cael cynnig grantiau o’r gronfa yn dod o wledydd gan gynnwys Zimbabwe, Kyrgystan, Albania, India, y Weriniaeth Tsiec, Indonesia, De Affrica a Gwlad Pwyl.”