Mae disgwyl y bydd tua 5,000 o bobol yn ymweld â Llangrannog dros y penwythnos, wrth i Ŵyl Nôl a Mlân gael ei chynnal yno.

Mi wnaeth y trefnwyr amcangyfrif y llynedd bod “tua 5,000” o bobol wedi dod i’r digwyddiad yn y pentre’ glan môr yng Ngheredigion.

Ac eleni, wrth i’r ŵyl ddathlu ei degfed pen-blwydd, maen nhw’n gobeithio y bydd y tywydd da yn denu tua’r un faint eto.

Am ddim

 Mae’r digwyddiad yn un sy’ am ddim i’r cyhoedd, gydag unrhyw elw yn mynd yn ôl i’r economi leol.

“Mae’r lle’n mynd i fod yn orlawn y penwythnos yma,” meddai Guto Jenkins, un o’r trefnwyr, wrth golwg360.

“Mae’r busnesau yn mynd i fod yn brysur tu hwnt.

“Mae lot mwy o bobol yn tueddu i gael eu gwyliau nhw adre’ yn hytrach na mynd tramor y dyddie yma, ac mae Gŵyl Nôl a Mlân yn un o’r pethe yna sy’n digwydd bob blwyddyn.”

“Gŵyl fiwsig Gymraeg”

 Ymhlith y perfformwyr heno a gydol yfory fydd Ail Symudiad, Los Blancos a’r Cledrau.

Geraint Jarman fydd yn cloi’r ŵyl ar y nos Sadwrn.

Mae Guto Jenkins yn dweud mai gŵyl o gerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg yw hi, ond bod croeso i bobol o bob rhan o’r byd ddod i brofi’r “diwylliant Cymraeg”.

“Mae’n gyfle i lot o bobol sydd heb sylweddoli bod yna fiwsig Cymraeg yn bodoli, pobol sydd efallai’n ddi-Gymraeg sy’n dod i’r ardal ac sydd i lawr yna y penwythnos yma,” meddai.

“Mae’n gyfle iddyn nhw sylweddoli bod yna ddiwylliant Cymraeg cryf o fewn y Sîn Roc Gymraeg.”

Pwy sy’n chwarae?

 Nos Wener:-

 Llwyfan y Pentre’

 8:00 – Los Blancos

10:00 – Ail Symudiad

Llwyfan y Llong

 7:30 – Bwca

9:00 – Cledrau

Dydd Sadwrn:-

 Llwyfan y Pentre’

 2:30 – Mared Williams

3:30 – Riffleros

5:00 – Hwntws

7:00 – Omaloma

9:00 – Y Niwl

Llwyfan y Llong

 1:00 – Plant lleol + Tonnau

1:30 – Samba Agogo

2:00 – Welsh Whisperer

3:00 – Ysgol Bro Siôn Cwilt

4:00 – Hoffgân

4:30 – Lowri Evans

6:00 – Patrobas

8:00 – Mei Gwynedd

10:00 – Geraint Jarman