Mae band gwerin newydd sbon wedi’i sefydlu yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn unswydd er mwyn hybu cerddoriaeth Gymraeg.

Tim Rees, Ken Thomas a Jane Williams yw tri aelod Gwŷr Y Stac – a phob un ohonyn nhw naill ai’n rhugl yn y Gymraeg neu’n dysgu’r iaith.

Fe ddaethon nhw at ei gilydd drwy ddigwyddiad rheolaidd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, Sesh Sŵn – sesiynau gwerin Cymraeg eu hiaith i gerddorion profiadol a di-brofiad.

Bywyd newydd i alawon gwerin

Diben y band, yn ôl Ken Thomas, yw rhoi bywyd newydd i alawon gwerin traddodiadol yn y ddwy dref mewn llefydd lle byddai pobol yn fwy tebygol o glywed cerddoriaeth Saesneg.

“Roedden ni’n dod at ein gilydd yn nhafarn y Gwachel ym Mhontardawe,” meddai Ken Thomas wrth golwg360. “Cwrddais i’r ddau arall yn fynna, a dechreuon ni wthio cerddoriaeth Gymraeg mewn llefydd lle mae digwyddiadau Saesneg yn digwydd drwy’r amser.

“Byddwn ni’n dechrau rhoi Sesh Bach at ei gilydd i bobol heb ddigon o hyder i chwarae mewn sesiynau mawr, a’r un gynta’ yng Nghlwb Rygbi Sgiwen ar Orffennaf 12.

“Mae’n neis i fod mewn sefyllfa lle mae miwsig dwyieithog yn digwydd. Beth y’n ni’n ceisio gwneud yw creu awyrgylch tebyg i’r hyn gewch chi yn Iwerddon neu’r Alban, a gweld pobol yn chwarae ac yn hybu eu miwsig eu hunain, a gwneud miwsig Cymraeg yn fwy cyfarwydd mewn llefydd lle byddai Saesneg yn fwy tebygol o gael ei defnyddio.”

Gigs a sesiynau

Mae’r band eisoes wedi perfformio mewn nifer o dafarnau lleol ac mewn priodas, yn ogystal â gŵyl fysgio Buskagynlais yn Ystradgynlais, ac ar y diwrnod y byddan nhw’n perfformio yn y Gwachel, byddan nhw hefyd yn chwarae yng Ngŵyl Gerddoriaeth Castell-nedd (Gorffennaf 12, 11y.b.).

Yn ddiweddar, fe gyfansoddon nhw gân arbennig ar gyfer gig yn Nhafarn Sinc ym Mhreseli.