Mae enwau’r pedwar band fydd yn cystadlu am goron Band Cymru 2018 yn Abertawe nos Sul nesaf wedi cael eu cyhoeddi.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Neuadd Fawr Campws y Bae Prifysgol Abertawe, a’i darlledu’n fyw ar S4C am 7 o’r gloch.

Y pedwar band fydd yn cystadlu am y brif wobr o £8,000 yw Band y Cory, Brass Beaumaris, Band BTM a Band Arian Llaneurgain. Cafodd y pedwar eu cyhoeddi ar ddiwedd y rownd gyn-derfynol neithiwr.

Cawson nhw eu dewis o blith 12 o gystadleuwyr ar ddiwedd y rownd gyn-derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, fe fydd gwobr o £2,000 am y cyflwyniad llwyfan gorau o ddarn unigol, a gwobr hefyd yn cael ei rhoi i’r cyflwyniad llwyfan gorau o ddarn unigol ac i’r unawdydd gorau.

Yn cyflwyno’r noson fydd Trystan Ellis-Morris ac Elin Llwyd.

Band Ieuenctid Cymru 

Mae enwau’r pedwar band fydd yn cystadlu am deitl Band Ieuenctid Cymru 2018 hefyd wedi cael eu cyhoeddi, a’r gystadleuaeth honno’n cael ei chynnal yn yr un lleoliad nos Sadwrn nesaf (Ebrill 21).

Y pedwar a ddaeth i’r brig oedd Band Jazz Tryfan, Cerddorfa Jazz Ieuenctid Gwasanaeth Cerdd Caerdydd a’r Fro, Band Mawr Ieuenctid Torfaen a Band Pres Ieuenctid Gwent.

Byddan nhw’n cystadlu am wobr o £1,000.

Glywsoch chi’r gyfrinach?

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd un o feirniaid y gystadleuaeth, Wyn Davies: “Glywsoch chi’r gyfrinach? Cewch weld pedwar o fandiau gore’r byd yn perfformio ar un noson. Bob un ohonynt o Gymru.

“Ni wedi gweld bo Cymru yn pwnsho uwchben ei phwysau gydag offerynnau pres, ac efallai bo hynny’n ‘bach o gyfrinach ond yn dilyn Band Cymru 2018 fydd hynny ddim yn gyfrinach byth mwy!”

Dywedodd Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Iwan Davies: “Mae Prifysgol Abertawe yn hynod o falch i groesawu Ffeinal Band Cymru i’r Neuadd Fawr am y tro cyntaf.

“Agorwyd y Neuadd dros ddwy flynedd yn ôl bellach, ac mae nifer o ddigwyddiadau o fri wedi manteisio ar y cyfleusterau yn barod.

“Rydym yn dymuno’n dda i bawb sy’n cystadlu ac yn gobeithio byddant yn mwynhau perfformio yn ysblander y Neuadd Fawr.”

‘Byth yn siomi’ 

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, Elen Rhys: “Tydi’r gystadleuaeth yma byth yn siomi.

“Dan ni eisoes wedi cael ein cyfareddu gan berfformiadau anhygoel yn y rowndiau cynderfynol ac mae llawer mwy i ddod gan y pedwar band talentog yma yn y rownd derfynol.

“Ry’ ni’n barod am sioe, a phob lwc i bob un ohonyn nhw!”