Mae gorsaf radio gymunedol yn Aberystwyth yn dweud eu bod wedi “synnu” na fydd cwmni Nation Broadcasting yn adnewyddu trwydded FM Radio Ceredigion.

Bydd y drwydded bresennol yn dod i ben yn 2019, a’r orsaf wedi bod yn boblogaidd iawn ers degawdau.

Fe fu dan berchnogaeth Nation Broadcasting ers 2010.

Ymhlith cyflwynwyr Radio Ceredigion mae cyn-gyflwynydd Radio Cymru, Andrew ‘Tommo’ Thomas.

Mewn datganiad, dywed Radio Aber nad ydyn nhw wedi trafod y sefyllfa â Radio Ceredigion na Nation Broadcasting gan fod eu “hamcanion fel gorsaf radio gymunedol yn wahanol iawn i rai eu sefydliad masnachol”.

Ond maen nhw’n dweud mai’r “hyn sy’n bwysig i ni ydi fod y gymuned yn cael gwasanaeth darlledu lleol”.

Ychwanega’r datganiad: “Beth bynnag fydd canlyniad diwedd trwydded Radio Ceredigion y flwyddyn nesaf, gall pawb sydd yn mwynhau radio lleol fod yn sicr y bydd Radio Aber yn dal i barhau i weithio tuag at greu gwasanaeth dwyieithog newydd gwych ar gyfer cymunedau’r ardal.

“Rydym yn bwriadu dechrau darlledu yn gynnar yn 2019.”

Cefndir

Wrth ddirwyn y drwydded bresennol i ben, gall Nation Radio wneud cais o’r newydd am drwydded o dan fformat gwahanol.

Mae’r drwydded bresennol yn gofyn am “raglenni cyson ac adnabyddadwy yn y Gymraeg”.

Ond ni fyddai’n orfodol i’w cynnwys fod yn gwbl ddwyieithog, a bydd y ganran o gerddoriaeth Gymraeg y bydd disgwyl iddyn nhw ei chwarae’n gostwng o 20% i 10%.

Mae’r orsaf yn darlledu ar 96.6, 97.4 a 103.3FM ac mae modd cyrraedd 72,088 o bobol, yn ôl Ofcom.

Ymateb Nation Broadcasting

 Yn ôl llefarydd ar ran Nation Broadcasting, fe fyddan nhw’n gwneud cais am drwydded newydd am “resymau masnachol”, ac nid am resymau’n “ymwneud â’r Gymraeg”.

Ond nid oedden nhw’n gallu cadarnhau faint o Gymraeg a fydd yn cael ei darlledu ar yr orsaf yn y dyfodol, os byddan nhw’n llwyddo i gael trwydded newydd.