Agweddau gwahanol symud a theithio, y da a’r drwg, yw prif thema albwm unigol cyntaf Iwan Huws.

Ac mae Pan Fydda ni’n Symud gan y canwr sydd wedi gwneud ei enw yn brif leisydd y band Cowbois Rhos Botwnnog, yn gasgliad ‘cymhleth’ o ganeuon am fater sydd yr un mor ddyrys.

Bellach yn dad ac yn briod â’r gantores a’r gyfansoddwraig, Georgia Ruth, mae Iwan Huws eisoes yn gweithio ar ei albwm unigol nesaf – ac ar nofel.

“Dw i wastad wedi licio trafaelio,” meddai. “Dw i wastad wedi licio’r syniad o fod rhwng dau le, achos yn aml iawn yn y sefyllfa yna, mond un bwriad sydd gen ti, sef cyrraedd.

“Wedyn mae o’n gyfnod lle ti ddim yn gorfod poeni gymaint am unrhyw beth arall. Mae bron a bod yn bach o respite o unrhyw beth arall sydd yn digwydd o dy gwmpas di achos yn yr eiliad yna rwyt ti’n trafaelio mae gen ti dy job, a dyna ti’n neud – ti’n symud.

“A dydi problemau eraill y byd ddim cweit yn medru dal fyny efo ti tan ti’n cyrraedd! Mae’r broses o symud lot gwell na chyrraedd!”

Y da a’r drwg

Ar adegau mae’r albwm yn cynnig “critique” o dwristiaeth a’i heffeithiau ar Gymru, meddai Iwan Huws, ond mewn caneuon eraill, mae ef ei hun yn canu o safbwynt twrist.

Mae un gân oddi ar yr albwm wedi cael ei chyhoeddi ganddo ar ffurf sengl – ‘Mis Mêl’ ydi honno, a gafodd ei hysgrifennu wedi ei briodas. Mae honno’n “sicr yn gân bositif”, meddai.

A ddydd Gwener (Ebrill 13) mi fydd ail sengl yn cael ei chyhoeddi ganddo ‘Pan Fydda ni’n Symud’ – cân sy’n rhannu enw â’r albwm ac sy’n “ymwneud yn fwy” â ffoaduriaid.

Recordio

Cafodd yr albwm ei recordio dros gyfnod o bum diwrnod yn Sir Benfro gyda Marta Salogni yn cynhyrchu; a’r cerddorion Gavin Fitzjohn, Gwion Llewelyn a Georgia Ruth yn cyfrannu.

Mae “lot o ganeuon” lle dim ond Iwan Huws a’i biano sydd i’w clywed, ac o ran recordio albwm cyfan mewn cyn lleied o amser mae’n nodi: “Dw i’n rili joio gweithio’n fast.”

Bydd yr albwm yn cael ei lansio yn Nhafarn y Fic, Llithfaen, ar Fai 11; a bydd modd ei brynu ar ffurf CD neu’n ddigidol. Bydd yn cael ei gyhoeddi trwy label Sbrigyn Ymborth.

Gallwch wrando ar y gân ‘Mis Mêl’ oddi ar yr albwm, isod:

https://soundcloud.com/sbrigynymborth/mis-mel-sengl