Mae Cymro Cymraeg sy’n olygydd ar un o brif gylchgronau cerddorol gwledydd Prydain wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu.

Mae Mike Williams, sy’n wreiddiol o Wrecsam, wedi bod yn olygydd ar y cylchgrawn, New Musical Express (NME), ers 2012, a hynny wedi iddo ymuno â’r cwmni am y tro cyntaf yn 2010.

Ond mae’r cyn-fyfyriwr Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl i gyhoeddwyr y cylchgrawn, sef Time Inc UK, gael eu gwerthu i gwmni arall ar gost o tua £130m.

“Y swydd orau yn y byd”

“Dw i wedi gwneud y penderfyniad mwyaf anodd y byddai byth yn ei gymryd trwy ymddiswyddo o’r swydd orau yn y byd,” meddai Mike Williams mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter.

“Mae wedi bod yn amser gwych gweithio gyda phobol mor arbennig. Dw i’n hynod falch o’r pethau gwych rydym ni wedi’u gwneud a’u cyflawni. NME am byth.”

Mike Williams oedd wrth y llyw pan gafodd NME ei ail-lansio yn 2015 yn gylchgrawn wythnosol am ddim.