Ddyddiau’n unig ar ôl i sêr teledu a ffilm gynnal protest yn erbyn aflonyddu rhywiol drwy wisgo du ar gyfer seremoni BAFTA, fe fydd cerddorion yn gwisgo bathodynnau arbennig ar gyfer seremoni’r Brits heno (nos Fercher, Chwefror 21).

Fe fydd gwesteion yn derbyn bathodynnau gwyn cyn iddyn nhw gamu ar y carped coch, wrth i’r ymgyrch yn sgil yr honiadau yn erbyn y cyfarwyddwr ffilm, Harvey Weinstein, fagu momentwm.

Enwebiadau

Dua Lipa sy’n arwain y ffordd o ran enwebiadau ar gyfer y gwobrau, gyda phump i gyd.

Mae Ed Sheeran, sy’n cyd-ysgrifennu gydag Amy Wadge o Bentre’r Eglwys, wedi’i enwebu ar gyfer yr albwm gorau ar gyfer ‘Divide’, sydd wedi treulio 50 wythnos ymhlith deg ucha’r siartiau Prydeinig. Fe fydd yn cystadlu yn erbyn Stormzy, J Hus, Lipa a Rag’N’Bone Man ar gyfer y wobr fwyaf.

Ymhlith y perfformwyr ar y noson, sy’n cael ei chyflwyno gan y digrifwr Jack Whitehall, fydd Justin Timberlake, Foo Fighters, Stormzy, Ed Sheeran, Lipa, Jorja Smith, Rag’N’Bone Man, a Rita Ora a Liam Payne.