Mae fideo o Gymro yn perfformio un o glasuron roc Queen ar biano Elton John, wedi ei wylio gan dros fil o bobol ar lein.

Yn y fideo, mae Aled Thomas, 24, o Gaerdydd yn perfformio ‘Bohemian Rhapsody’ yng ngorsaf drenau tanddaearol St Pancras, Llundain.

“Mae fy fideo piano wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ar ôl i mi wneud hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol, fe aeth y fideo yn feiral am ychydig ddyddiau,” meddai Aled Thomas.

Mae’n debyg cafodd yr offeryn ei rhoddi i’r orsaf gan Elton John yn gymharol ddiweddar.

Bydd Aled Thomas yn gyfarwydd i rhai am ei waith yn ymgyrchu tros materion yn ymwneud ag awtistiaeth, a thafodieithoedd.

Gallwch weld y fideo islaw…

https://www.youtube.com/watch?v=n1mRQKbJEb8