A hithau’n Ddydd Miwsig Cymru, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn defnyddio cerddoriaeth Gymraeg ar ei sianel deledu ar-lein, FAWTV.

O ganlyniad i bartneriaeth gyda’r BBC, bydd cerddoriaeth yr artistiaid sydd wedi cael cyllid drwy brosiect Gorwelion y Gorfforaeth yn cael ei chwarae ar gyfryngau cymdeithasol ac yn nigwyddiadau’r Gymdeithas hefyd.

Mae rheolwr prosiect Gorwelion wedi dweud bod y bartneriaeth yn gyfle i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i bobol newydd.

“Mae’r tîm pêl-droed wedi ysbrydoli’r wlad yn ddiweddar ac mae eu hymroddiad i ddiwylliant Cymru wedi bod yn ardderchog,” meddai’r DJ Bethan Elfyn.

“Bydd hi’n gyfle gwych i gyflwyno cerddoriaeth Cymraeg newydd  i gynulleidfaoedd newydd trwy CBDC [Cymdeithas Bêl-broed Cymru].”

Cyflwyno cerddoriaeth i’r “Wal Goch”

I’r Gymdeithas Bêl-droed, mae’n ffordd o gyflwyno cerddoriaeth newydd i’r ‘Wal Goch’, sef cefnogwyr pêl-droed Cymru sy’n mynd i wylio gemau, yn ogystal â chefnogwyr eraill dros y byd.

“Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant ac etifeddiaeth Cymru,” meddai llefarydd y Gymdeithas.

“Mae ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn llwyddo i roi ias lawr asgwrn cefn unrhyw un sy’n canu neu wrando ar yr anthem ac mae’n parhau’n arf pwerus yn ein gemau rhyngwladol.

“Dydd Miwsig Cymru yw’r diwrnod perffaith i ni lansio’r bartneriaeth gyda Horizons/Gorwelion wrth i ni gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg newydd i’r Wal Goch ac i gefnogwyr pêl-droed ledled y byd.”

Mae’r Gymdeithas eisoes wedi trydar fideo ar-lein yn hyrwyddo’r diwrnod, sy’n cynnwys llais Eadyth Crawford o Aberfan.

https://twitter.com/FAWales/status/961961011594059776

Bydd Eadyth Crawford hefyd yn ymuno â Gorwelion heddiw mewn gig i dros 2,000 o fyfyrwyr ar gampws Gorseinon, Coleg y Gŵyr Abertawe fel rhan o ddigwyddiad drwy’r dydd mewn pedwar lleoliad, wedi’i arwain gan Goldie Lookin’ Chain.

“Rwy’n gyffrous iawn fod fy ngherddoriaeth yn rhan o’r fideo gyntaf i ddod allan gan Horizons/Gorwelion a CBDC – ar ddiwrnod enfawr i gerddoriaeth o Gymru,” meddai Eadyth Crawford.