Mae creu murluniau i ddathlu Dydd Miwsig Cymru (Chwefror 9) wedi bod yn “anrhydedd fawr”, yn ôl yr artist graffiti sydd wedi creu saith darn i’w gosod ledled Cymru.

Mae’r gyfres yn portreadu cerddorion Cymraeg, yn cynnwys Kizzy Crawford ac Yws Gwynedd, ac wedi eu gosod mewn llefydd amlwg i nodi’r diwrnod hwn.

Mae’r artist graffiti o Gaerdydd, Bradley ‘R-Mer’ Woods, yn dweud ei fod wedi ceisio rhoi ychydig o bersonoliaeth y cerddorion yn y gwaith.

“Wnes i drio cyfleu’r bersonoliaeth gyda rhai ohonyn nhw, yn enwedig Dave Datblygu,” meddai wrth golwg360.

“Roedd e’n fwy punky. Ges i lun du a gwyn, a wnes i drio ychwanegu’r pync iddo. Ond gyda’r gweddill, maen nhw’n fwy mwyn. Mae’n dibynnu ar y gerddoriaeth i ddweud y gwir…”

Cymerodd pob darn rhyw ddiwrnod i’w creu – gan eithrio’r oriau o ddylunio’r graffeg – a gwaith chwistrellu paent llawrydd yw pob un.

Pwy yw R-Mer?

Mae Bradley ‘R-Mer’ Woods, wedi bod wrthi ers ugain mlynedd yn creu gwaith celf trwy chwistrellu paent, ac ef oedd yn gyfrifol am greu murluniau Dydd Miwsig Cymru y llynedd hefyd.

Bellach mae’n artist llawn amser gyda chomisiynau “diddiwedd”, meddai, ac mae wedi creu gwaith i sawl sefydliad enwog yn gynnwys clybiau pêl-droed Caerdydd a Lerpwl.

“Dw i’n dwlu gwneud hyn,” meddai. “Mae beth ddechreuodd gyda fy angerdd i tuag at gelf, bellach wedi troi’n swydd. Dw i wedi fy mendithio.”

Y darnau, a lle mae’n bosib eu gweld

  • Kizzy Crawford – Ysgol Gyfun Rhydywaun, Penywaun
Murlun Kizzy Crawford
  • Gruff Rhys – Hwlffordd
Murlun Gruff Rhys
  • Dave Datblygu – Aberteifi
Murlun Dydd Miwsig Cymru; Dave Datblygu
  • Elin Fflur – Neuadd y Dref, Llangefni
Murlun Dydd Miwsig Cymru: Elin Fflur
  • Lisa Jên Brown 9Bach – Stryd Fawr, Bethesda
Murlun Dydd Miwsig Cymru: 9 Bach
  • Osian Candelas – Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Murlun Dydd Miwsig Cymru: Osian Candelas
  • Yws Gwynedd – Canolfan Gelfyddydau Galeri, Caernarfon
Murlun Dydd Miwsig Cymru: Yws Gwynedd