Fe fydd canolfan alw un o brif gwmnïau ffonau symudol gwledydd Prydain yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg i’w cwsmeriaid trwy gydol y dydd heddiw (Chwefror 9), a hynny fel rhan o ‘Ddydd Miwsig Cymru’.

Dyma’r trydydd tro i Ddydd Miwsig Cymru gael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, gyda sefydliadau, busnesau a phobl ledled Cymru yn cael eu hannog i chwarae ac i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Ac un o’r cwmnïau mawr a fydd yn cymryd rhan yn y dydd fydd EE, sydd wedi addo y bydd eu canolfan gwasanaeth cwsmeriaid ym Merthyr Tudful yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg i’w cwsmeriaid trwy gydol y dydd.

“Ffordd wych i gefnogi diwylliant Cymraeg”

“Mae tîm EE yn Merthyr Tudful, ac ein staff ar draws ein siopau yng Nghymru, wrth eu bodd i gefnogi Dydd Miwsig Cymru,” meddai llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360.

“Rydym wedi ymrwymo i’n timau Cymraeg anhygoel sydd yn helpu ein cwsmeriaid ar draws y Deyrnas Unedig bob dydd, a llynedd ni oedd y gweithredwr rhwydwaith symudol cyntaf i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r dathliad yma o gerddoriaeth a’r Gymraeg yn ffordd wych i gefnogi diwylliant Cymraeg, ac edrychwn ymlaen i gynnal cerddorion Cymraeg yn Merthyr  fel modd i nodi’r diwrnod.”

Cefnogaeth yn Efrog Newydd

Fe fydd bandiau Cymraeg i’w clywed wrth ffonio gwasanaethau Cyngor Caerdydd hefyd, a thu hwnt i For Iwerydd mae’r bwyty Cymreig, Sunken Hundred, yn Efrog Newydd wedi addo chwarae cerddoriaeth Gymraeg trwy’r dydd.