Mae enwau 34 o enillwyr gwobr gerddorol Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi’u cyhoeddi.

Fe fyddan nhw i gyd yn derbyn £2,000 yr un o’r Gronfa Lawnsio i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u gwaith.

Cafodd yr enillwyr eu dewis gan arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth, ac fe ddaeth 175 o geisiadau i law eleni. Roedd yn agored i artistiaid a bandiau yng Nghymru sy’n ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol.

Ers eu sefydlu yn 2014, mae Gorwelion a’r Gronfa Lawnsio wedi dyfarnu arian i fwy na 135 o artistiaid o bob cwr o Gymru.

Enillwyr eleni

Adwaith, Caerfyrddin, offer ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm

Beth Celyn, Caernarfon, piano llwyfan newydd

Buzzard, Caerdydd, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus digidol

Cally Rhodes, Ceredigion, recordio gyda Rich James yn stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth

Campfire Social, Llangollen, recordio yn Stiwdio Orange Sound, Penmaenmawr

Codewalkers, Caerdydd, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus gyda Lost Agency

Dan Bettridge, Pen-y-bont ar Ogwr, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm cyntaf ac ymddangosiadau

E.T.L.B, Sir y Fflint, amp gitâr a phedal dolen ar gyfer perfformiadau byw

Eadyth, Merthyr Tudful, offer newydd, meddalwedd a rhyddhau albwm

Esther, Caerdydd, fideo cerddoriaeth

Farm Hand, Powys, fideo cerddoriaeth gyda Mark James

Gallops, Wrecsam, offer i greu delweddau gweledol mewn perfformiadau byw

Gravves, Glannau Dyfrdwy, fideos ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus

Greta Isaac, y Bont-faen, ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus ar-lein a radio, a chymysgu albwm

Griff Lynch, Gwynedd, amser stiwdio ar gyfer ail albwm

HMS Morris, Caerdydd, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ail albwm

Joel Avaient, y Barri, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus gyda Lost Agency

Junior Bill, Caerdydd, dau fideo cerddoriaeth

Lemfreck, Casnewydd, casgliad o fideos cerddoriaeth

Mace, Caerdydd, hysbysebu a fideo cerddoriaeth

Names, Sir Gaerfyrddin, amser stiwdio yn StudiOwz, Hwlffordd a gwneud fideo cerddoriaeth

Nia Wyn, Conwy, sengl i’w recordio yn stiwdio Paul Weller a fideo cerddoriaeth, ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus

NoNameDisciple, Caerdydd, recordio EP

Omaloma, Conwy, recordio a chymysgu albwm yn Stiwdio Glanllyn

Public Order, Merthyr Tudful, lle ymarfer, recordio, llunio traciau meistr a dosbarthu

Rainbow Maniac, Caerdydd, recordio a llunio traciau meistr, ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus

Regime, Sir Benfro, recordio cyngerdd yn Neuadd y Frenhines, Arberth, yn fyw

Reuel Elijah, Caerdydd, gwneud fideo cerddoriaeth

Seazoo, Wrecsam, recordio ail albwm yn Stiwdio Big Jelly yn Ramsgate a llunio traciau meistr yn Stiwidio Hafod yn y Bont-faen

Serol Serol, Conwy, allweddellau a chas caled

Siddi, Gwynedd, recordio albwm yn Stiwdio Drwm

Sonny Double 1, Caerdydd, fideo cerddoriaeth, gwasgu a dosbarthu albwm

We’re No Heroes, Caerdydd, sengl newydd – recordio yn StiwdiOwz, cymysgu yn Rat Trap a thraciau meistr yn Stiwdio Hafod

Written In Kings, Pen-y-bont ar Ogwr, recordio dwy sengl gyda Romesh Dodangoda, ynghyd â chymysgu a thraciau meistr