Mark Evans
Mae un o sêr sioe gerdd Wicked wedi dweud wrth Golwg360 y byddai yn hoffi “rhoi ysgytwad” i gystadleuaeth yr unawd sioe gerdd.

Roedd Mark Evans yn canu ar faes yr Eisteddfod cyn teithio i Lundain i berfformio un o’r prif rannau, Fiyero, yn sioe Wicked yn theatr yr Apollo.

“Gan fy mod i’n gweithio mewn sioeau cerdd, mi fyddwn i’n hoffi cwrdd â threfnwyr y Steddfod a chynnig syniadau ynglŷn â sut i newid pethau,” meddai Mark Evans.

“Wrth lefaru, da chi’n gorfod sefyll yn llonydd ac mae yna lot o ryw wynebau dros ben llestri weithiau – i ddweud y stori a gor-eirio.

“Mae hynny’n wych mewn ffordd oherwydd mae geirio pobl Gymraeg yn hollol ffantastig.

“Ond, dw i’n meddwl weithiau fod angen mynd a fo yn ôl i rywbeth mwy naturiol ac actio fel eich bod chi’n gymeriad yn hollol wahanol i lefaru a dyna di’r gwahaniaeth dw i’n meddwl.”

“Dyw pobl ddim wir yn deall mai actio trwy gân ydi o. Dyna’r peth pwysicaf i mi,” meddai.

“Pe bawn i’n beirniadu, ac mae’n siŵr y bydda i yn y dyfodol, dyna fyddwn i’n chwilio amdano, sef y gallu i greu cymeriad a dweud stori trwy gyfrwng cân.

“Hoffwn i gael cwrdd â’r cystadleuwyr cyn y gystadleuaeth i roi cyfarwyddiadau iddyn nhw, fel eu bod nhw’n deall y cymeriadau.

“Mae’n anodd cymryd cân allan o’i chyd-destun yn y sioe a gwneud i’r gynulleidfa ddeall am beth yr ydych chi’n canu.

“Mi hoffwn i petai’r gynulleidfa’n deall o le mae’r gân wedi dod a phaham y maen nhw’n ei ganu.”

Eisteddfod

Dywedodd na fyddai’n gwneud yr hyn mae’n wneud nawr heb anogaeth ei athrawes, Eirlys Dwyryd.

Hi sylweddolodd ei fod yn gallu canu a’i annog i gystadlu yn yr eisteddfod, meddai.

“Fydda gen i ddim yr hyder na chwaith y profiad o berfformio o flaen cynulleidfa fawr heb yr Eisteddfod,” meddai cyn dweud fod yna “dalent enfawr yng Nghymru”.

“Rydw i’n dysgu yn rhai o’r colegau gorau yn Llundain a dw i’n gallu gweld y gwahaniaeth pan mae rhywun yn Gymro neu Gymraes.

“Mae rhyw naturioldeb a hyder yn perthyn iddyn nhw am eu bod nhw wedi bod yn perfformio ers oedden nhw yn ifanc iawn.”

West End in Wales

Mae Mark Evans wedi bod yn rhedeg ei ysgol haf ei hun ers pum mlynedd yn Theatr Elwy, Llanelwy, o’r enw West End in Wales.

Mae Mark Evans, dau berson arall o’r west end a staff o ddeg yn gweithio yn yr ysgol Haf, meddai.

“Mae’n gyfle iddyn nhw gael y siawns i weithio yn yr un modd am mewn coleg yn Llundain. Ceisio dod a safon hyfforddiant Llundain i’r ardal leol am lai na hanner pris ydw i,” meddai.

Mae’n dweud mai “gweithio mor galed ag y medrwch chi” yw’r peth pwysicaf i bobl ifanc sydd a’u bryd ar weithio yn y maes.

“Cyn belled eu bod nhw’n benderfynol mai hwn ydi’r unig beth y maen nhw eisiau ei wneud – ac nad ydyn nhw am wneud unrhyw beth arall – fe ddylen nhw fynd amdani,” meddai.

‘Dianc’

“Roedd rhaid i mi ddianc o Gymru er mwyn gallu gwneud beth oeddwn i eisiau ei wneud. Ond dw i mor falch o fod yn Gymro Cymraeg a chael y cyfle i ddod yn ôl,” meddai.

“Dw i’n fab ffarm, wedi tyfu fyny yng nghanol unlle yn Llanrhaeadr – rhwng Dinbych a Ruthun.