Siân Miriam - enillydd Brwydr y Bandiau
Disgybl chweched dosbarth o Ysgol Gyfun Llangefni, Sir Fôn yw enillydd Brwydr y Bandiau Menter Iaith Cymru a BBC Radio Cymru 2011.

 Fel rhan o’i gwbor, fe fydd Siân Miriam, 17 oed o Langristiolus yn cael cyfleoedd i berfformio mewn digwyddiadau cerddorol amrywiol a recordio sesiwn i C2 BBC Radio Cymru.  

 Roedd pedwar yn y rownd derfynol neithiwr gan gynnwys  y Saethau o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Downhill, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, Cefneithin a Swnami, Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau.

 Enw cân fuddugol Siân Miriam yw Beth yw ystyr rhyfel?

 Ymhlith ei dylanwadau cerddorol mae Eva Cassidy a The Beatles.

 Magi Dodd oedd yn cyflwyno’r rhaglen ar C2 BBC Radio Cymru gyda Rhodri Llwyd Morgan, cerddor a chanwr Cerrig Melys, y DJ Ian Cottrell, a Meilyr Gwynedd, canwr gyda’r band Sibrydion yn rhoi eu barn. Y gwrandawyr oedd yn dewis pwy fyddai’n ennill.  

Safon uchel

 “Mae safon y bandiau sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth eleni yn arbennig o uchel, ac fe allai unrhyw un o’r pedwar fod yn enillwyr teilwng,” meddai cyflwynwraig C2, Magi Dodd cyn y rhaglen.

Mae’r wobr gyfan yn cynnwys:

  • cytundeb i recordio Sesiwn i C2 BBC Radio Cymru
  • perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol eleni 
  • erthygl dudalen lawn yn un o rifynnau’r cylchgrawn ‘Y Selar’
  • sesiwn lluniau hanner diwrnod efo ffotograffydd proffesiynol
  • gwahoddiad i berfformio yng ngŵyl Huw Stephens, Gŵyl Sŵn 2011
  • perfformio ar lwyfan Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol eleni
  • cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
  • cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2011