The Joy Formidable
Mae tocynnau dydd gŵyl Wakestock yn Abersoch wedi mynd ar werth heddiw wrth i’r trefnwyr hefyd gyhoeddi rhai o’r enwau mawr sy’n perfformio yno eleni.

Roedd tocynnau ar gyfer y penwythnos llawn wedi eu rhyddhau ym mis Chwefror eleni, ond dyma’r cyfle cyntaf i bobol ddewis a dethol pa ddyddiau penodol maen nhw am fynd i’r ŵyl.

The Cribs ymysg yr artistiaid diweddaraf

Mae’r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi rhagor o enwau artistiaid fydd yn perfformio eleni, gyda’r grŵp The Cribs yn sefyll ymysg yr enwau diweddaraf ar y rhestr.

Fe fydd y grŵp roc o Swydd Efrog yn perfformio ar y llwyfan fel gwesteion arbennig i brif atyniad y penwythnos, Biffy Clyro.

Hefyd wedi eu hychwanegu i’r rhestr berfformio mae Kelis, Neon Trees, Wolf Gang, Tek One, Noisettes, Pulled Apart By Horses, Innerpartysystem a’r grŵp o Ogledd Cymru The Joy Formidable.

Yn ogystal â Biffy Clyro, roedd trefnwyr Wakestock eisoes wedi cyhoeddi y byddai The Wombats, Ellie Goulding, Chase & Status, Zane Lowe a Kids in Glass Houses ymysg eraill yn perfformio.

Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 2000 gyda dim ond 800 o bobol yn y dorf, ond mae bellach yn un o wyliau cerddorol mwyaf Cymru ac yn gystadleuaeth ‘wakeboardio’ mwyaf Ewrop.

Manylion tocynnau

Mae’r tocynnau diwrnod safonol yn costio £45 tra bod modd cael pecyn arbennig sy’n cynnwys gwersylla am y penwythnos am £70.

Mae modd cael gafael ar docynnau yn y siopau lleol canlynol: Fat Face a Siop Chwaraeon Dŵr Abersoch;  Bargain Box and Newsplus, Pwllheli; Outdoor World a Recordiau Cob. Porthmadog ; Snowdonia Adventure yng Nghaernarfon; a Recordiau Cob ym Mangor.