Wynne 'Gio Compario' Evans
Fe aeth y tenor sydd ar frig y siartiau clasurol yn groes i’w gwmni recordio a mynnu bod ei CD’n cael ei lansio yng Nghaerfyrddin.

Fe ddyweodd Wynne Evans, sy’n adnabyddus erbyn dan enw Gio Compario o hysbysebion GoCompare.com, wrth gylchgawn Golwg bod cwmni Warner eisiau i’r lansio ddigwydd yn Llundain.

Ond fe fydd Wynne Evans yn dychwelyd i lwyfan Theatr y Lyric nos Sul, lle’r oedd ef wedi dechrau ar ei yrfa.

A hithau’n Sul y Mamau, roedd y theatr hefyd yn bwysig iawn i’w rieni, meddai, a’i fam yn cynhyrchu sioeau poblogaidd yno.

“Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â’r holl beth,” meddai.

Portread o Wynne Evans yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg