Roedd ennill Tlws Sbardun y llynedd yn “hwb i hyder” Elidyr Glyn, yn ôl y canwr-gyfansoddwr sydd hefyd yn brif leisydd y band Bwncath o Gaernarfon.

Roedd e ymhlith y perfformwyr ar lwyfan Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe yn Abertawe neithiwr fel rhan o ddathliadau pen-blwydd canolfan Gymraeg Tŷ Tawe yn 30 oed. Hefyd yn perfformio yno roedd Meic Stevens, Lowri Evans ac Osian Morris.

Enillodd Elidyr Glyn y wobr am ei gân Curiad y Dydd oedd, yn ôl y beirniaid Bryn Fôn ac Emyr Huws Jones, “yn taro o’r gwrandawiad cyntaf”.

Mae e’n brif leisydd y band Bwncath o Gaernarfon.

Alun ‘Sbardun’ Huws

Bu farw Alun ‘Sbardun’ Huws, un o aelodau gwreiddiol Tebot Piws, yn 66 oed yn 2015.

Fe gyfansoddodd e rai o’r caneuon cyfoes mwyaf ar gyfer artistiaid a bandiau fel Bryn Fôn a Brigyn.

Mae ei ganeuon Coedwig Ar Dân a Strydoedd Aberstalwm yn aml yn ymddangos yn set Elidyr Glyn.

Tlws Sbardun

Ar ôl ei berfformiad yn Abertawe nos Sadwrn, dywedodd Elidyr Glyn wrth golwg360: “Mae [ennill Tlws Sbardun] wedi bod yn grêt i fi. O’n i wedi dechrau recordio pethau’n gynt, ond roedd hi’n anrhydedd fawr i gael ennill hwnna ac mae o wedi helpu at recordio ac i fynd ymlaen i recordio’r albwm.”

Dywedodd fod ‘Sbardun’ wedi bod yn ddylanwad mawr arno’n gerddorol erioed.

“Dw i wedi mwynhau ei ganeuon ers pan o’n i’n fach. O’n i o hyd yn mwynhau caneuon Bryn Fôn ond do’n i ddim yn gwybod efo ‘Sbardun’ pan o’n i’n fach pa rai oedd o wedi’u sgwennu. Ond digwydd bod, o’n i’n hoff iawn o’r rhai oedd o wedi’u sgwennu i gyd.”

‘Grêt o gystadleuaeth’

Yn ôl Elidyr Glyn, mae Tlws Sbardun, sy’n gwobrwyo cyfansoddwyr, yn “grêt o gystadleuaeth, o ran bod hi’n gystadleuaeth gyfansoddi”. 

“A wedyn y ffaith fod hi’n gystadleuaeth cyfansoddi caneuon acwstig eu naws, mae hynna’n reit braf dw i’n meddwl. Mae’n apelio at sgwenwyr caneuon tebyg i’r math o ganeuon fasa Sbardun wedi’u sgwennu, dyna ydi’r bwriad.”

Ac yn ôl Elidyr Glyn, mae ennill y wobr wedi bod yn hwb i’w hyder.

Ychwanegodd: “Hyder, yn fwy na dim byd, os ydi o wedi gwneud rhywbeth. Mae’r dylanwad gan Sbardun ei hun yna’n barod. Ond yr hwb yna o ran hyder i fi.”

Mae’r dathliadau pen-blwydd yn Nhŷ Tawe yn parhau heno gyda Noson gyda Phrifeirdd Abertawe (7pm).