Megan-Hollie Robertson yn perfformio yn Eisteddfod Llangollen eleni
Fe fydd cantores o Wrecsam yn ymuno â channoedd o berfformwyr fydd yn cymryd rhan mewn Eisteddfod yn Awstralia dros y penwythnos.

Eisteddfod yr Arfordir Aur yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath yn Awstralia ac mi fydd Megan-Hollie Robertson, 22, yn cyfrannu at y ‘Musicale’ ddydd Sul (Hydref 15).

Llwyddodd y Gymraes i ennill lle ar y daith wedi iddi ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2017.

Mae disgwyl iddi ganu caneuon o’i pherfformiodd yn Llangollen ym mis Gorffennaf yn ystod ei pherfformiad yn y ‘Musicale’, gan gynnwys ‘Home’ a ‘The Girl in 14G’.

Breuddwyd

“Does dim amheuaeth bod y daith hon am fod yn gwbl gofiadwy” meddai Megan-Hollie Robertson.  

“Alla’ i ddim aros i berfformio yn y Musicale ynghyd â chymaint o fy nghyd berfformwyr. Mi fydda’ i’n gwireddu breuddwyd.”

 Mae Eisteddfod yr Arfordir Aur yn rhoi llwyfan i dros 70,000 o gantorion, 330 o fandiau a cherddorfeydd, 175 côr, bron i 1,500 o grwpiau dawns a 3,000 o ddawnswyr unigol.