Mae gŵyl Sŵn – sef mis o gyngherddau a digwyddiadau ledled Caerdydd – yn dechrau yn swyddogol heno.

Tros yr wythnosau nesaf mae disgwyl i tua 3,500 fynd i’r perfformiadau gan ddegau o artistiaid ac ymysg y bandiau fydd Peace, Idles, Yr Eira a Los Blancos.

Ymysg y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal bydd disgo tawel yn yr Amgueddfa Genedlaethol a pherfformiadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 

Bydd yr ŵyl yn dod i ben â ‘diwrnod darganfod’ ar Hydref 21 – sef cyfres o gyngherddau fydd yn rhoi cyfle i fandiau ffres i gyrraedd cynulleidfa newydd.

Gŵyl “y bandiau llai”

“Holl bwynt Sŵn – y peth pwysicaf – yw ein bod ni am i bobol weld y bandiau llai, y rhai newydd,” meddai un o drefnwyr yr ŵyl John Rostron wrth gylchgrawn Golwg.

“Ddim bandiau adnabyddus fydd yn denu llu o bobol … yr unig bobol yr ydan ni eisiau eu denu ydy’r rhai sydd eisiau gweld cerddoriaeth newydd ac ymrwymo i hynny.”

Gallwch ddarllen rhagor o gyfweliad Golwg â John Rostron yn y rhifyn diweddaraf.