Y dyn gwyrdd (llun Golwg360)
Fe fydd opera newydd yn cael ei lansio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog – yn ymwneud â sut y mae coed yn cyfathrebu.

Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a’r grŵp Gestalt Arts sydd wedi creu’r opera ‘Arwyr Di-glod y Blaned’ ac fe fydd yn cael ei pherfformio yn yr ŵyl sy’n dechrau heddiw ger Crughywel.

Mae’r perfformiad wedi ei ysbrydoli gan goed sydd wedi cael eu difrodi a gallu’r rheiny i gyfathrebu a rhybuddio ei gilydd trwy rwydweithiau o ffwng o’r enw ‘mycelia’.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig, ac mae wedi’i ysgrifennu yn benodol ar gyfer yr ŵyl er mwyn dysgu’r cyhoedd am ecoleg.

Coed yn cyfathrebu

“Mae gweithio gyda’r Athro Lynne Boddy a’i chydweithwyr i greu’r opera unigryw yma wedi bod yn bleser,” meddai cyfansoddwr yr opera, Ruth Mariner.

“Fe fydd yna gyfres o berfformiadau ledled yr ŵyl, fydd yn rhannu ffeithiau diddorol ag ymwelwyr am sut y mae coed yn cyfathrebu a’i gilydd.”