Wynne Roberts, yr Elvis Cymraeg
Canu i gleifion mewn ysbytai ac i’r henoed mewn cartrefi hen bobol, yw un o’r pethau sy’n rhoi’r mwyaf o bleser i berfformiwr o Borthaethwy.

Wrth ei waith o ddydd i ddydd, mae Wynne Roberts yn gaplan yn Ysbyty Gwynedd, ond mae’r offeiriad gyda’r Eglwys yng Nghymru yn troi ei law hefyd at ddynwared y brenin roc a rôl ei hun – Elvis Presley.

Ac mae eleni’n flwyddyn fawr, meddai, gan esbonio y bydd yn perfformio mewn cyngerdd bron bob penwythnos gyda phenllanw ddydd Mercher nesaf pan fydd hi’n ddeugain mlynedd ers marw’r canwr ar Awst 16, 1977.

Canu ac agor calonnau

Does dim un diwrnod yn mynd heibio pan na fydd Wynne Roberts yn canu ac esbonia ei fod hapusaf pan fydd yn canu i’r henoed.

“Mynd i ganu mewn cartrefi henoed ac i bobol sy’n gorfod byw efo dementia sy’n rhoi’r pleser mwyaf yn fy mywyd,” meddai wrth golwg360.

“Beth ydw i’n gweld ydi bod canu yn agor calonnau ac atgofion pobol i pan oedden nhw’n iau.

“Mwyaf sydyn, mae’r person sydd o fy mlaen i yn hogan un ar hugain unwaith eto, ac maen nhw’n dechrau dawnsio, neu weithiau’n crïo, achos mae’r atgofion yn dod yn ôl iddyn nhw.”

Elfen ysbrydol yn apelio

Er i Wynne Roberts gael ei eni yn Seion yng Ngwynedd mae wedi ymgartrefu ers rhai blynyddoedd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Dywedodd iddo ddilyn Elvis Presley ers ei fod yn fach ond dim ond ers pedair blynedd y mae wedi ei ddynwared yn broffesiynol.

“Mi oedd hynna am fod Mam mewn cartref henoed… a beth wnes i oedd mynd â fy ngitâr efo fi a dechrau canu iddyn nhw … o hynny ymlaen mi wnaeth pethau dyfu, tyfu, tyfu i le mae o rŵan lle dw i’n gwneud cyngherddau ar hyd a lled y wlad.”

Mae elfen ysbrydol y caneuon yn medru apelio at y genhedlaeth hŷn hefyd, medai.

“Byddai Elvis wedi dweud ei hun mai’r caneuon crefyddol, y gospels oedd y rhai yr oedd o’n mwynhau eu canu fwyaf.”

Elvis Cymraeg

Pwysleisiodd mai un o’r pethau pwysicaf iddo yw perfformio rhai o glasuron Elvis Presley yn y Gymraeg.

“Mae’n bwysig i wneud rhywbeth yn y Gymraeg, achos mae gan Elvis lot o ddilynwyr sydd yn byw ac yn bod oddi fewn y fframwaith Gymraeg.”

Ac mae cyngherddau Elvis yn cynnig mwy na cherddoriaeth, meddai, “mae’r holl brofiad o wisgo i fyny, dawnsio a phawb yn ymuno yn yr hwyl”.

Mae ganddo wisg arbennig ei hun gan gynnwys clogyn hir, du gyda’r ddraig goch ar y cefn wedi’i chreu o fwy na 8,000 o emau bach.

“Mae’n bwysig inni ei gofio. Mae o’n berson sy’n mynd i fod efo ni am flynyddoedd i ddod yn ein hatgofion ac yn ei gerddoriaeth,” meddai.

Ac am y tro cyntaf eleni, fe fydd yn cynnal cyngerdd uniaith Gymraeg i gofio’r canwr, sef ‘Noson i’r Brenin’ ym Mhafiliwn Porthcawl ar Fedi 21 yng nghwmni John ac Alun a dawnswyr Pen-y-bont ar Ogwr.