Siân James (oddi ar Youtube)
Fe fydd cantores werin amlycaf Cymru, Siân James yn perfformio yn Nhŷ Gwerin ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern brynhawn dydd Mawrth (5 o’r gloch).

Tra ei bod hi’n astudio Cerdd ym Mhrifysgol Bangor o dan arweiniad yr Athro William Mathias y cydffurfiodd hi’r grŵp gwerin Bwchadanas, oedd yn boblogaidd ar hyd a lled Cymru am ddegawd a mwy.

Mae hi wedi teithio’r byd ond fel pob cystadleuydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon, roedd yn rhaid i Siân James hithau ddechrau yn rhywle hefyd.

Nansi Richards

Ymhlith hoff atgoffion Siân James o ganu’r delyn yn blentyn mae ei pherfformiadau arbennig ar gais Nansi Richards.

Roedd Nansi Richards – neu ‘Delynores Maldwyn’ yn fuddugol dair gwaith yn olynol ar y delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1908 a 1910.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei phenodi’n Delynores Tywysog Cymru.

Ymhlith ei disgyblion blaenllaw eraill roedd y diddanwr Ryan Davies, Dafydd a Gwyndaf Roberts o’r band gwerin Ar Log, a’r delynores deires Llio Rhydderch.

Collodd ei gŵr, Cecil Maurice Jones yn 1963, a bu hithau farw yn 1979.

Cywiriad: Roedd fersiwn cynharach o’r stori hon yn dweud bod Nansi Richards wedi diweddu ei hoes yn Abertawe – dyna’r wybodaeth sydd ar gael ar nifer o wefannau ac mewn straeon papur newydd blaenorol. Cysylltodd Dan Puw, Y Parc, i ddweud nad yw hynny’n gywir a’i bod wedi treulio’r blynyddoedd wedi colli ei gwr yn ei hen gartre’ yn Sir Drefaldwyn ac wedyn yn y Parc.

Perfformiodd Siân James yn ddiweddar yn noson fisol Tyrfe Tawe yn Nhŷ Tawe, Abertawe lle rhannodd hi ei hatgofion cynharaf o ‘Delynores Maldwyn’ gyda golwg360: