Mae gŵyl yn Lerpwl wedi dod i’w therfyn yn gynnar – a hynny ar ôl i gig y gantores o Gaerdydd, Charlotte Church gael ei chanslo oherwydd oedi wrth i bobol aros i fynd i mewn.

Hon oedd yr ŵyl Hope and Glory gyntaf yn y ddinas, ond roedd llu o gwynion ar ôl i bobol orfod ciwio am gyfnodau hir.

Cafodd Charlotte Church ei thynnu o raglen yr ŵyl ar ôl oedi o fwy na dwy awr, ond aeth hi i leoliad arall i berfformio’r gig.

Roedd negeseuon ar wefannau cymdeithasol yr ŵyl a’r heddlu heddiw yn cadarnhau bod y digwyddiad wedi dod i ben yn gynnar.

Roedd disgwyl i nifer o fandiau mawr, gan gynnwys y Lightning Seeds, berfformio yn y digwyddiad.