Fe fydd y gantores 21 oed o Wrecsam, Megan-Hollie Robertson yn perfformio yn Awstralia ym mis Hydref ar ôl ennill gwobr Llais Sioe Gerdd 2017 yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Mae hi hefyd wedi ennill medal yr Eisteddfod a £1,500.

John Ieuan Jones a Mared Williams oedd y cystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

Perfformiodd Megan-Hollie Robertson dair cân er mwyn ennill y wobr – Home (Beauty and the Beast), The Girl in 14G a Perfect (Edges).

Sarah Wigley Johnson a Kate Edgar oedd y beirniaid.

Dywedodd Sarah Wigley Johnson fod “safon y cystadleuwyr yn y rownd derfynol mor uchel fel y gallai unrhyw un ohonyn nhw fod yn perfformio’n broffesiynol nawr”, gan ychwanegu bod “y penderfyniad yn un anodd”.

Amrywiaeth ac amlochredd

Ychwanegodd Sarah Wigley Johnson fod “amrywiaeth ac amlochredd” Megan-Hollie Robertson yn sefyll allan, gan dynnu sylw arbennig at ei doniau fel “actores” a’i “hymrwymiad i’r hyn roedd hi’n ei ganu”.

“Gyda sioeau cerdd, mae llais gwych yn un rhan yn unig o’r peth,” ychwanegodd.

“Dangosodd Megan-Hollie ddyfnder y cymeriad ym mhob perfformiad. O’r ffôl i’r difrifol neu’r gobeithiol, roedd hi wir yn gallu cyfleu emosiynau’r cymeriadau a chysylltu â’r gynulleidfa.”

‘Syrpreis hyfryd’

Dywedodd Megan-Hollie i bod ennill y gystadleuaeth yn “syrpreis hyfryd”.

“Dim ond am ei fod yn gyfle da i berfformio’n lleol y gwnes i roi cynnig arni.”

Mae hi’n athrawes yng nghwmni ei rhieni, Theatr Ieuenctid Bitesize yn Wrecsam.

Dawnsio oedd ei phrif faes yn blentyn, ond gwnaeth hi droi at ganu yn 12 oed.

Ychwanegodd: “Perfformiais i yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn 2011 a 2012 fel rhan o Gôr Iâl, ond dim ond eleni pan dderbyniodd fy mam e-gylchlythyr am y cystadlaethau y meddyliais i am berfformio yma eto.

“Roedd cael canu yn y Pafiliwn yn wych. Fel arfer yn y theatr, mae’r goleuadau’n isel a dydych chi ddim yn gallu gweld y gynulleidfa er mwyn cysylltu â nhw ond yn y pafiliwn, roedd cymaint o ofod a golau. Ro’n i wrth fy modd bob munud.”

Wrth edrych ymlaen at y daith i Awstralia, dywedodd hi: “Dw i erioed wedi bod ymhellach nag awr i ffwrdd ar awyren felly mae hyn yn mynd i fod yn antur unwaith mewn oes!”

Mae Eisteddfod y Gold Coast yn Awstralia wedi ei llongyfarch.