Charlotte Church
Mae’r gantores o Gaerdydd wedi cyhoeddi ei bod wedi colli plentyn cyn geni, gan alw ar bobol i barchu ei chyfnod galaru.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter dywedodd ei bod hi â’i phartner Jonathan Powell wedi colli plentyn gan ddweud bod “nawr yn amser i alaru a bod gyda’n gilydd fel teulu.”

“Rydyn ni’n gofyn yn garedig i bawb barchu’r heddwch hynny,” ychwanegodd yn ei neges.

Roedd Charlotte Church wedi cyhoeddi yn gynharach eleni ei bod yn disgwyl trydydd plentyn yn gwmni i’w phlant Ruby 9 oed, a Dexter 8 oed, o’i pherthynas flaenorol gyda Gavin Henson.