Y Cae Ras (Llun: Clwb Pêl-droed Wrecsam)
Fe fydd nifer o ffyrdd Wrecsam ynghau heno ar gyfer cyngerdd Olly Murs ar y Cae Ras.

Mae disgwyl i filoedd o bobol ymweld â’r dref ar gyfer y digwyddiad rhwng 5 o’r gloch a 10 o’r gloch.

Mae Cyngor Wrecsam wedi tynnu sylw teithwyr at drefniadau dros dro, ac fe ddywedodd cwmni trenau Arriva y byddai gwasanaethau’n brysurach nag arfer, a bod system ciwio mewn grym yng ngorsaf ganolog y dref ar ddiwedd y noson.

Dim ond i ffwrdd o’r stadiwm y bydd modd teithio ar hyd Ffordd Yr Wyddgrug rhwng 3 o’r gloch a 9.45pm.

Dim ond i un cyfeiriad y bydd modd teithio rhwng cylchfan B&Q a Station Approach, ac mi fydd yn cau am 9.45 wrth i bobol adael y stadiwm, gyda mynediad i drigolion lleol yn unig.

Dylai unrhyw un sy’n mynd i’r gyngerdd barcio ym Mhrifysgol Glyndŵr, ac mae llefydd ychwanegol i barcio ar gael ar Lôn Crispin a ger Ysgol Plas Coch.

Bydd gwasanaeth bws wennol ar gael o swyddfeydd y Cyngor ar Ffordd Rhuthun o 4 o’r gloch tan ganol nos.