Kelly Jones (Llun o wefan y Stereophonics)
Mae canwr y band Stereophonics ymhlith y rhai sy’n perfformio cân elusennol i godi arian at ddioddefwyr y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain.

Mae Kelly Jones wedi ychwanegu ei lais at fersiwn newydd o Bridge Over Troubled Water, gan ddweud bod y digwyddiad wedi ei atgoffa o lifogydd ar ei stryd pan oedd e’n blentyn yn byw yng Ngwmaman ger Aberdâr.

“Mae’n briodol iawn ar gyfer y pwnc, dw i’n nabod y gân, dw i wedi ei chlywed hi filiynau o weithiau.

“Gyda’r holl bethau hyn sy’n digwydd yn Llundain ar hyn o bryd, a Manceinion a phob man arall, dw i’n credu mai’r peth pwysicaf yw fod pawb yn cyd-dynnu.”