Llun: Kirsten McTiernan
Mae Opera Genedlaethol Cymru yn gobeithio denu mwy o bobol ifanc i weld perfformiadau, trwy roi cyfle iddyn nhw gael blas ar setiau sioeau yn union fel petaen nhw’n mynd i’r Dr Who Experience neu Fyd Harry Potter.

Bydd ymwelwyr â Chaerdydd yn gallu gweld golygfeydd allan o’r operâu Madame Butterfly a’r Ffliwt Hudol, sydd wedi cael eu haddasu ar gyfer y to iau.

Fe fydd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf cyn symud ymlaen i nifer o lefydd eraill ledled gwledydd Prydain yn yr hydref a’r gaeaf.

Magic Butterfly

Bydd Magic Butterfly yn cael ei chyflwyno mewn cynhwysydd llongau, a bydd ymwelwyr yn gallu defnyddio technoleg Google Daydream er mwyn gweld y golygfeydd sydd wedi cael eu hail-greu o’u cwmpas.

Dyma’r tro cyntaf i gwmni opera ddefnyddio’r dechnoleg yn y modd hwn.

Cwmni REWIND sydd wedi cael ei gomisiynu gan Opera Genedlaethol Cymru i gynhyrchu’r profiad, sy’n cynnwys recordiad o’r gân Un bel di gan Karah Son ac o How soft, how strong your magic sound allan o The Magic Flute.

Mae’r cynhwysydd llongau wedi cael ei ddylunio gan Gwyn Eiddior, sydd wedi gweithio i’r Eisteddfod yn y gorffennol.

‘Ymgolli’

Dywedodd Cyfarwyddwr REWIND, Greg Furber: “Yn fwy na dim, rwyf eisiau i’r gynulleidfa ymgolli yn y bydoedd sydd wedi eu creu iddyn nhw – ymgolli’n llwyr yn yr hyn y maen nhw’n ei weld a’i glywed.

“Yn Madame Butterfly, profi harddwch a phŵer perfformiad Karah sydd wedi ein cyfareddu yn ystod y broses gynhyrchu.

“Gyda’r Magic Flute rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa’n cael ymdeimlad o hwyl a rhyfeddod, wrth fynd ar daith i goedwig hudol wedi’i hamgylchynu gan yr anifeiliaid a ddofwyd.”