Elinor Bennet
Fe fydd y delynores Elinor Bennet yn cyflwyno cyngerdd a fydd yn deyrnged i waith y diweddar Dr Meredydd Evans a’i wraig Phyllis Kinney yng Nghaernarfon y mis nesaf.

Fe fydd y cyngerdd, rhan o Nawfed Gŵyl Arall y dref, yn seiliedig ar gyfnod ymchwil a dreuliodd Elinor Bennet gyda’r ddau a ddaeth yn eiconau ym myd canu gwerin yng Nghymru.

“Braint enfawr i mi oedd cael y cyfle i gyfweld Merêd a Phyllis,” meddai. “Mi fyddaf yn cyflwyno detholiadau byrion o’r cyfweliadau hyn, ac yn canu rhai o’r caneuon a’r gerddoriaeth a drafodir, er mwyn rhannu a chadw ar gof angerdd a gwybodaeth eithriadol Merêd a Phyllis i gynulleidfaoedd y dyfodol.”

Fe fydd y band gwerin newydd Vrï hefyd yn cymryd rhan ar y noson.

Fe fydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn Eglwys Santes Fair, Caernarfon, nos Wener 7 Gorffennaf am 7.30 a’r tocynnau ar gael am £12 o wefan yr ŵyl, www.gwylarall.com