Gwawr Owen
Mae’r côr cyntaf i ymarfer yn y Gymraeg yng Nghaerdydd yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth eleni.

Fe gafodd Côr Caerdydd ei sefydlu gan yr arweinydd presennol, Gwawr Owen, ym mis Ebrill 1992 i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y flwyddyn honno.

“Doedd dim un côr ar y pryd yn ymarfer yn y Gymraeg yn y brifddinas, ac mae hynna’n anodd credu erbyn hyn,” meddai’r arweinydd gan nodi bod o leiaf chwe chôr yn ymarfer yn y Gymraeg yno bellach.

“Mae hynny’n adlewyrchu gymaint yn fwy o bobol sy’n dod i Gaerdydd ac eisiau ymuno gyda chôr,” meddai.

‘Sefyllfa gorawl gref’

I ddathlu’r chwarter canrif, fe fu Côr Caerdydd yn perfformio yng Ngŵyl Gerdd Aberdaugleddau yn Nhyddewi nos Sadwrn (Mai 6) mewn cyngerdd ar y cyd â’r cyfansoddwr Karl Jenkins.

Fe fyddan nhw hefyd yn teithio i Wlad Belg ym mis Hydref i nodi can mlynedd ers marwolaeth y bardd, Hedd Wyn.

“Mae gan Gymru sefyllfa gorawl gref, ac rydyn ni wedi llwyddo i fynd o nerth i nerth. Dw i ddim yn meddwl fod neb wedi dychmygu y byddem ni dal yma chwarter canrif yn ddiweddarach,” ychwanegodd Gwawr Owen.

Mae Gwawr Owen yn hel atgofion gyda golwg360 yn y clip yma: