Y diweddar Ikutaro Kakehashi (Llun: PA)
Bu farw Ikutaro Kakehashi, y peiriannydd o Japan a fu’n gyfrifol am ddatblygu cerddoriaeth ddigidol a sefydlu cwmni allweddellau Roland.

Roedd yn 87 oed, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel gwr a dreuliodd ei fywyd yn ceisio adloniant byw. Fe gafodd ei waith ddylanwad anferth ar swn cerddoriaeth electronig, hop hop a dawns.

Fe sefydlodd gwmni Roland yn 1972, a chynnyrch cynta’r cwmni oedd y peiriant rhythm. Ers hynny, mae offerynnau Roland wedu bod yn rhan greiddiol o berfformiadau artistiaid o Lady Gaga i Omar Hakim.

Derbyniodd Ikutaro Kakehashi wobr Grammy yn 2013 am ddatblygu’r ‘Midi’ (y Musical Instrumental Digital Interface) sy’n ffordd o gysylltu offerynnau efo’i gilydd yn ddigidol.