Mererid Hopwood
Bydd prosiect sydd â’r nod o annog plant i ddysgu iaith trwy ddefnyddio cerddoriaeth yn cael ei gyflwyno mewn deg ysgol gynradd yn ne orllewin Cymru.

Pwrpas prosiect Cerdd Iaith, yw mynd i’r afael â dirywiad dysgu ieithoedd yng Nghymru gan targedu Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn benodol.

Bydd y prosiect yn ystyried sut mae elfennau cerddorol iaith yn gallu helpu pobl i ddysgu ac bydd athrawon yn annog disgyblion i wrando ar sŵn ieithoedd i wella’r broses o ddatblygu a deall geirfa newydd.

Mae’r prosiect dan arweiniad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, British Council Cymru, Ein Rhanbarth ar Waith a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant; a chaiff ei ariannu gan gronfa gwerth £1m trwy Sefydliad Paul Hamlyn.

Mae Cerdd Iaith hefyd yn bwriadu datblygu a chryfhau’r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia, yn sgil dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa.

“Cyfle gwych”

“Mae wedi bod yn gyfle gwych i archwilio gydag athrawon ysgolion cynradd sut mae disgyblion yn ymateb i sŵn geiriau,” meddai’r Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.

“Mae’r dull hwn o weithredu yn ymddangos fel pe bai’n datblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwrando trylwyr a’r angen i greu’r amgylchedd cywir i annog pobol i gymryd risgiau wrth ddysgu ieithoedd newydd.”