Cadi Gwyn Edwards (Llun: Cân i Gymru)
Disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Conwy ddaeth i’r brig yng nghystadlaeuaeth Cân i Gymru 2017 neithiwr.

Cafodd Cadi Gwyn Edwards o Lanrwst ei hysbrydoli i ysgrifennu Rhydd ar ei ffôn ar ôl ymweld ag Ynys Llanddwyn.

Canodd hi ei chân ei hun – y mae hi’n ei disgrifio fel cân am “unigrwydd person sydd eisiau torri’n rhydd oherwydd caethiwed” – ar noson y gystadleuaeth yng Nghaerdydd.

Mae hi’n ennill tlws Cân i Gymru a £5,000, yn ogystal â chael cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Cafodd yr enillydd ei ddewis drwy bleidlais y cyhoedd yn unig eleni, gyda Pryder gan Sophie Jayne Marsh yn cipio’r ail wobr (£2,000) a Fy Nghariad Olaf gan Richard Vaughan ac Andy Park yn ennill £1,000am ddod yn drydydd.

Dywedodd Cadi Gwyn Edwards: “Dwi wedi bod yn breuddwydio am gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru er yr oeddwn i‘n 12 oed, ond roedd yn rhaid imi aros tan oeddwn yn 17 oed i gystadlu a gwireddu’r freuddwyd honno.”

Ychwanegodd Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, Elen Rhys: “Mae wedi bod yn noson wych i gerddoriaeth wreiddiol, Gymraeg.

“Llongyfarchiadau i bob un o’r cyfansoddwyr a cherddorion fu’n rhan o noson Cân i Gymru 2017, ac yn enwedig i’r enillydd Cadi Wyn Edwards.”