Plu
Mae band gwerin Cymraeg yn teithio o un pen i Ariannin i’r llall yr wythnos hon, fel rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi, ‘Patagonia Celtica’.

Fe fydd Plu – sef Gwilym Bowen Rhys a’i chwiorydd, Marged ac Elan – yn cyd-deithio â band o Ecwador sy’n cyfuno cerddoriaeth Geltaidd gyda cerddoriaeth o’r Andes, ynghyd ag Alejandro Mahon, dawnsiwr Gwyddelig o’r Ariannin.

Wedi’r gig cyntaf ym Mhuerto Madryn ar Ddydd Gŵyl Dewi, fe fyddan nhw’n gwneud eu ffordd ar draws gwlad tuag at Esquel gan wneud ambell i gig ar y ffordd. Maen nhw hefyd yn chwarae yng ngwyl Patagonia Celtica dros y Sul.

Ers ei sefydlu yn 2014, fe gynhelir Patagonia Celtica yn flynyddol ar y penwythnos agosaf at Fawrth y cyntaf, gyda’r nod o warchod traddodiadau, celf a hanes Celtaidd.