George Michael (Llun: PA)
Mae teulu’r canwr George Michael wedi galw am ymchwiliad ar ôl i gynnwys yr alwad 999 yn dilyn ei farwolaeth gael ei gyhoeddi.

Dywedodd y teulu mewn datganiad eu bod nhw “wedi dychryn” fod y recordiad ar gael i’r cyhoedd.

Daeth ei gariad, Fadi Fawaz o hyd i’w gorff yn ei gartref yn Swydd Rydychen ar Ddydd Nadolig.

Roedd y recordiad yn cynnwys darn o’r sgwrs rhyngddo fe a derbynnydd yr alwad.

Mae ei deulu wedi galw am ymchwiliad llawn er mwyn darganfod sut y daeth y wybodaeth yn hysbys, ac maen nhw’n galw am ymdrin “yn y modd priodol” â’r sawl oedd yn gyfrifol.

Doedd archwiliad post-mortem ddim wedi datrys sut y bu farw’r canwr 53 oed, ac fe gafodd rhagor o brofion eu cynnal, ond dydy’r canlyniadau ddim wedi cael eu datgelu hyd yn hyn.

Bydd y canwr yn cael ei anrhydeddu yn ystod seremoni wobrwyo’r Grammys yn Los Angeles heno.