Mae cantores Gymraeg, ifanc, wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter i ofyn am help, wedi i ladron dorri i mewn i’w chartref neithiwr a dwyn nifer o eitemau personol.

Yn ol Kizzy Crawford, fe dorrodd lladron i mewn i’r ty yn Bryntaf ger Aberfan, nos Fawrth, gan fynd â chyfrifiadur, allweddi car, consol Play Station 2 a gemau, ynghyd â phwrs a waled.

“Plis, plis, rhannwch hwn, a’n helpu ni i ddod o hyd i bwy wnaeth hyn,” meddai’r gantores sydd wedi diodde’ lladrad ym  mis Awst y llynedd, pan aed â gitâr newydd sbon o’i heiddo.