Karl Jenkins, cyfansoddwr 'Cantata Memoria'
Fe fydd gwaith corawl a gafodd ei gyfansoddi gan Syr Karl Jenkins i nodi hanner can mlynedd ers trychineb glofaol Aberfan yn cael ei lwyfannu yn Efrog Newydd heno.

Y perfformiad yn Neuadd Carnegie yw’r perfformiad byw cyntaf o’r gwaith yng ngogledd America.

Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan S4C, ac fe gydweithiodd y Prifardd Mererid Hopwood â’r cyfansoddwr ar y gwaith.

Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf erioed yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Hydref 8 y llynedd, a’i ddarlledu ar S4C y noson ganlynol.

Mae ‘Cantata Memoria’ hefyd wedi cyrraedd brig y siartiau cerddoriaeth glasurol.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Mi fydd pwysigrwydd Cantata Memoria: Er mwyn y Plant yn oesol fel teyrnged barhaol i bobl Aberfan yn dilyn y trychineb ofnadwy hwnnw 50 mlynedd yn ôl.

“Wrth i’r Cantata Memoria gael ei berfformio a’i glywed ar draws y byd, yn cynnwys y gyngerdd hon yn Neuadd Carnegie Efrog Newydd, bydd hanes cymuned Aberfan yn cael ei rannu a’i gofio.

“Roedd y profiad o ddod â’r gwaith yma yn fyw yn un wna i fyth ei anghofio. Rwy’ mor falch o’r campwaith mae Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood wedi ei greu, a bod S4C wedi bod yn rhan allweddol o’r prosiect ac mae’n enghraifft o ddyletswydd S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus i gyfrannu at gof cenedl.”

Bydd Côr Glanaethwy yn rhan o gorws cymysg ynghyd â 14 côr arall o’r Unol Daleithiau a gwledydd eraill, gan gynnwys Y Ffindir a’r Almaen.

Ymhlith y perfformwyr eraill mae’r delynores Catrin Finch a’r chwaraewr ewphoniwm, David Childs.