Eifion 'Jonsi' Jones
Mae Radio Cymru yn treulio’r diwrnod heddiw yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r gwasanaeth Cymraeg – ond fydd un o droellwyr disgiau mwya’ poblogaidd yr orsaf ddim yn rhan o’r digwyddiadau.

Eisoes heddiw, mae sylw wedi bod i raglen frecwast gynta’r orsaf, Helo Bobl! a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn, ac mae un o gyflwynwyr newyddion y donfedd yn Ionawr 1977, Gwyn Llewelyn wedi bod yn darllen y bwletinau. Mae sylw wedi bod hefyd i fiwsig rhaglenni ac i gyfraniad cyflwynwyr hirhoedlog fel Beti George a Dei Tomos.

Ond mae’r BBC wedi cadarnhau wrth golwg360 na chafodd Eifion ‘Jonsi’ Jones ddim ei wahodd i fod yn rhan o’r dathliadau – er iddo fod ar y donfedd am 15 mlynedd rhwng Hydref 1995 a Hydref 2010, yn cyflwyno’r rhaglen foreol ac yn y prynhawn, a hynny yn ystod cyfnod pan lwyddodd yr orsaf i ddenu 200,000 o wrandawyr. Mae nifer y gwrandawyr yn hanner hynny erbyn hyn.

“Roedd yna lwyth o gyflwynwyr ddim yn rhan o’r rhaglen am y rheswm ein bod ni y bore yma wedi ffocysu ar y rhaglenni cyntaf oll a’r rheiny sydd wedi bod ar yr orsaf ers y dechrau’n deg,” meddai llefarydd.