Fe fydd angladd un o gerddorion bandiau pres gorau Cymru yn cael ei gynnal ym Mangor ddydd Sadwrn.

Mae teyrngedau wedi eu talu i Eilir Williams y cornetydd a fu farw Noswyl Nadolig yn 40 oed ar ôl colli ei frwydr gyda chlefyd MS.

Yn ystod y 90au, roedd yn rhan o un o fandiau gorau’r byd wrth i’r YBS Band ennill gwobrau trwy wledydd Prydain ac Ewrop.

Yn ôl gwasanaeth newyddion byd y bandiau, 4barsrest, fe fu Eilir Williams farw yng nghartre’ teulu ei wraig yn Nhreorci.

O Ddeiniolen

Roedd wedi ei fagu yn Neiniolen ac wedi bod yn aelod o fandiau Deiniolen, Gwynedd a Chymru cyn symud i astudio i Brifysgol Salford er mwyn cael y cyfle o chwarae i un o’r bandiau gorau.

Mae 4barsrest yn dyfynnu brawd Eilir Williams, Dylan, yn sôn am ei hoffter o deithiau tramor band yr YBS ac am ei hiwmor miniog.

Fe fydd y gwasanaeth i ddathlu ei fywyd yn Amlosgfa Bangor.