Syr Bryn Terfel (Llun: Asiantaeth PR Harlequin)
Mae Bryn Terfel wedi cael ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines Loegr, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd yr anrhydedd yn “ysbrydoli” cantorion y dyfodol.

Mae’r Cymro Cymraeg o Bant Glas ger Caernarfon wedi’i anrhydeddu am ei gyfraniad i’r byd cerddorol.

Daeth i amlygrwydd fel canwr ar lwyfan yr Eisteddfod cyn mynd ymlaen i fod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y byd canu opera.

Ymhlith y gwobrau mae e wedi’u hennill ar hyd y blynyddoedd mae Grammy a Brit clasurol.

Derbyniodd CBE yn 2003 am ei gyfraniad i fyd yr opera, cyn derbyn Medal Gerddoriaeth y Frenhines dair blynedd yn ddiweddarach.

‘Ysbrydoli’

Dywedodd y canwr ei fod yn disgwyl tocynnau rygbi “ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref” pan gafodd y llythyr yn y post yn dweud wrtho ei fod e wedi cael ei anrhydeddu.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr anrhydedd yn ysbrydoli cantorion y dyfodol, fel y cafodd yntau ei ysbrydoli gan Syr Geraint Evans.

“Dw i’n teimlo nawr fod cael eich urddo’n farchog yn rhoi ysgogiad arall i chi weithio’n fwy diflino gyda’r sefydliad wnes i gychwyn, mae angen i mi weithio mwy efo hwnnw.”

Ychwanegodd y byddai’r ‘Syr’ yn “rhoi mwy o bwys ar helpu”.

“Mi wnes i sbïo ar Syr Geraint Evans a meddwl fod Syr Geraint wedi palu’r ffordd ymlaen i’r genhedlaeth nesaf o gantorion – a’r un fath yn rhyngwladol – ac felly gobeithio y bydd cantorion ifainc yn gweld hyn efo fi hefyd – y medra i ei gario fo fel y gwnaeth o am 23 o flynyddoedd, efallai mwy.”

Mae Bryn Terfel wedi dyweddïo a’r delynores Hannah Stone, fu’n delynores Tywysog Cymru yn y gorffennol, ac maen nhw’n disgwyl eu plentyn cyntaf yn y gwanwyn.

Ymateb cymysg

Ymateb cymysg a gafwyd i’r anrhydedd, gyda Dafydd Iwan yn cwestiynu “hongian yr Ymerodraeth Brydeinig a’r Cwîn am eu gyddfau”.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod Bryn Terfel yn “ysbrydoliaeth ac mae ei gerddoriaeth yn dod â chymaint o fwynhad i gynifer o bobol o amgylch y byd”.