Rick Parfitt (Llun: Wikimedia Commons)
Mae gitarydd Status Quo, Rick Parfitt wedi marw’n 68 oed o ganlyniad i gymhlethdodau yn dilyn triniaeth ar ei ysgwydd yn Sbaen.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ym Marbella nos Iau, a bu farw amser cinio heddiw.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu iddo gael haint yn yr ysbyty ar ôl cael llawdriniaeth.

Roedd wedi cael trawiad ar y galon yn ystod yr haf, ac fe fu ‘farw’ am ychydig funudau ac roedd hynny wedi gadael ei ôl arno, yn ôl ei reolwr Simon Porter.

Dywedodd y datganiad ei fod yn bwriadu cyhoeddi albwm a hunangofiant yn 2017 ar ôl cael cyngor meddygol i beidio â theithio gyda’r band am gyfnod.

Mae’n gadael gwraig a phedwar o blant.