Shirley Bassey (Llun: PA)
Mae’r Fonesig Shirley Bassey yn awyddus i ganu pedwaredd cân James Bond pan fydd y ffilm nesaf yn cael ei rhyddhau.

Mae’r gantores 79 oed o Tiger Bay yn cyfaddef iddi deimlo’n nerfus bellach wrth iddi geisio cyrraedd nodau uchaf ‘Goldfinger’, a gafodd ei rhyddhau am y tro cyntaf yn 1964.

Mae hi hefyd yn adnabyddus am ganu ‘Diamonds Are Forever’ a ‘Moonraker’.

Bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu dros y Nadolig i ddathlu ei phen-blwydd yn 80 oed.

Mewn cyfweliad â David Walliams, dywedodd hi am ‘Goldfinger’: “Mae’n frawychus gan ’mod i’n gwybod fod y nodyn yna’n dod ar y diwedd ac mae’n chwarae ar fy nerfau, ydw i’n mynd i gyrraedd y nodyn hwnnw?”

Wrth iddi gael ei holi am y posibilrwydd o ganu pedwaredd cân James Bond, dywedodd hi, “Pam lai?”

Mae disgwyl i’r ffilm James Bond nesaf gael ei rhyddhau yn 2018, ond does dim cadarnhad eto pwy fydd yn canu’r gân.

Bydd y rhaglen ‘David Walliams Celebrates Dame Shirley Bassey’ yn cael ei darlledu ar BBC1 ar Noswyl Nadolig am 9pm.