Rhan o glawr yr albwm
Albwm wedi’i ysbrydoli gan brofiad canwr o Aberystwyth yn Rhufain dair blynedd yn ôl sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2016.

Yr albwm ‘2013’ ydy albwm unigol cyntaf Meilyr Jones o Rydypennau sy’n gyn-aelod o’r band Race Horses.

Enillodd y wobr o blith deuddeg o albymau eraill ar y rhestr fer a hynny mewn seremoni yn y Depot yng Nghaerdydd neithiwr (Tachwedd 24).

Artistiaid Cymraeg

Cafodd yr albwm ei chyhoeddi ym mis Mawrth eleni, ac mae’n seiliedig ar brofiad Meilyr Jones wedi iddo deithio i’r Eidal yn 2013 ar ôl i’r Race Horses ddod i ben.

Ymhlith beirniaid y gystadleuaeth eleni roedd y gantores Amy Wadge, Dwynwen Morgan o Radio Cymru, y blogiwr Lowri Cooke a’r hyrwyddwr Gwyn Eiddior.

Dyma hefyd oedd y tro cyntaf i gymaint o gerddorion Cymraeg eu hiaith gyrraedd y rhestr fer gan gynnwys Sŵnami, 9Bach, Alun Gaffey, Datblygu, Plu a hefyd Cate Le Bon, Climbing Trees, Right Hand Left Hand, Skindred a The Anchoress.

Gwenno Saunders a’i halbwm ‘Y Dydd Olaf’ a gipiodd y wobr y llynedd.