Aled ac Eleri Edwards Llun: Clawr y CD
Mae’r unig bâr priod i ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar fin cyhoeddi cryno ddisg newydd o ddeuawdau.

A’r ddau’n ffermio yn ardal Cilycwm Llanymddyfri, enillodd Aled Edwards y Rhuban Glas yn Eisteddfod y Bala 1997 ac Eleri Edwards yn ei hennill tair blynedd yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013.

“Ers inni briodi mi rydan ni wedi gweld ein llwybrau cerddorol yn ymuno mwy a mwy, gyda threfnwyr cyngherddau yn cael dau unawdydd am bris un galwad ffôn,” meddai Aled Edwards.

“Yn anochel mae’r cyngherddau yma wedi diweddu gydag un neu ddwy ddeuawd, ac yn fuan iawn bu i’r repertoire o ddeuawdau dyfu.  Roedd eu poblogrwydd ymysg y cynulleidfaoedd yn gnewyllyn i recordio’r CD, yn ogystal ag anogaeth gan ambell i gefnogwr brwd,” meddai.

‘Dau fel ni’

Y gân sy’n dwyn teitl y gryno ddisg yw ‘Dau fel ni’ a gyfansoddwyd yn arbennig i’r ddau.

“Mae hi’n gân ysgafn, gyda’r geiriau’n disgrifio’r gwahaniaeth rhwng tafodiaith ein hardaloedd,  finnau yn dod o Ddyffryn Conwy, ac Aled o Ddyffryn Tywi,” meddai Eleri Edwards.

Ers ennill y Rhuban Glas – Gwobr Goffa David Ellis mae’r bariton a’r mezzo soprano wedi teithio i bedwar ban byd i berfformio, ac yn 2014 cafodd Eleri Edwards wahoddiad i ganu ym Melbourne Awstralia ar ddydd Gŵyl Dewi.