Côr Glanaethwy ar Britain's Got Talent
Mae un o gorau Cymru wedi cael gwahoddiad i berfformio mewn cyngerdd yn Efrog Newydd fydd yn nodi hanner canrif ers trychineb Aberfan yn 1966.

Bydd Côr Glanaethwy yn rhan o gyngerdd yn y flwyddyn newydd sy’n cyflwyno gwaith Karl Jenkins, ‘Cantata Memoria’.

Mae’n rhan o gyfres o gyngherddau rhyngwladol Efrog Newydd a bydd y perfformiad yn Neuadd Carnegie ar Ionawr 15.

Yn ôl Iris Derek a Jonathan Griffith, sylfaenwyr y cyngherddau rhyngwladol DCINY, “mae’n fraint aruthrol i DCINY allu dod â Chôr Glanaethwy yma i ganu yn nangosiad Gogledd America o ‘Cantata Memoria’ Syr Karl.

“Rydym yn credu’n gryf yng ngallu cerddoriaeth i wella’r rhai sy’n dioddef, ac ni allwn feddwl am waith mwy teimladwy i arddangos y gred honno.”

‘Cantata Memoria’

Cyfansoddodd Karl Jenkins ‘Cantata Memoria’ ar gomisiwn i S4C, ac fe gafodd ei berfformio yng Nghaerdydd yn ystod yr Hydref.

Mae’n ddarn sy’n deyrnged i’r 116 o blant a 28 o oedolion fu farw yn y trychineb ar 21 Hydref 1966.

Yn ôl Karl Jenkins, mae hefyd yn “ddathliad o blentyndod, yn symud yn raddol o’r tywyllwch i’r goleuni”.

Ac wrth berfformio yn y gyngerdd yn Efrog Newydd, mae Côr Glanaethwy wedi penderfynu cyflwyno eu perfformiad nhw i aelod o’u fu farw ym mis Hydref eleni, sef Olwen Davies.