Mae cystadleuaeth Cân i Gymru 2017 yn agor heddiw, ac S4C yn cynnig gwobr o £5,000 i gyfansoddwr y gân fuddugol, £2,000 i’r gân sy’n dod yn ail, a £1,000 i’r trydydd safle.

Er mwyn cystadlu, mae angen anfon y gân i mewn erbyn 5yp ddydd Gwener, Ionawr 6.

Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi S4C, ar nos Sadwrn, 4 Mawrth 2017, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris y cyflwyno’r rhaglen yn fyw.

“Mae’n wych bod Cân i Gymru yn annog pobol i gyfansoddi,” meddai Elin Fflur, sydd hefyd yn gyn-enillydd y gystadleuaeth.

“Mae creu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn, ac mae’r gystadleuaeth yn ffordd i’r Gymraeg gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’n llwyfan ar gyfer talent newydd – o’r cyfansoddi i’r canu – ac yn rhoi cyfle i rai pobol brofi recordio proffesiynol am y tro cyntaf.

“Wna i fyth anghofio fy mhrofiad cyntaf i o gystadlu yn Cân i Gymru!”

Mae’r holl fanylion am y gystadleuaeth a chopi o’r ffurflen gais ar gael ar-lein fan hyn.