Côr Glanaethwy ar Britain's Got Talent
Mi fydd un o gorau enwocaf Cymru yn cyhoeddi albym newydd o’r enw Haleliwia ymhen pythefnos, ac mae’r arweinydd wedi dweud y bydden nhw’n cyflwyno’r casgliad yn deyrnged i’r diweddar Leonard Cohen.

Daeth y newydd am farwolaeth y canwr a’r cyfansoddwr 82 o Ganada y bore yma. Mae’n cael ei ystyried yn un o ffigyrau cerddorol mwya’ dylanwadol yr hanner canrif ddiwetha’, yn cael ei osod yn yr un cae â Bob Dylan oherwydd angerdd ei eiriau.

Mae Cefin Roberts, sylfaenydd Ysgol Glanaethwy, wedi bod yn ffan mawr o gerddoriaeth Leonard Cohen ers i’w frawd mawr gyflwyno’r gân ‘Susan’ iddo.

Mae’n arwain Côr Glanaethwy sy’n canu fersiwn o ‘Hallelujah’, cân fwyaf adnabyddus Leonard Cohen.

“Roedd o’n un o’r cantorion mawr pan oeddwn i’n hogyn bach – ro’n i wastad yn teimlo bod ganddo rywbeth amdano, rywbeth nad ydw i’n medru’i esbonio, hyd yn oed yn y cwmni o artistiaid oedd ganddo ar y pryd,” meddai Cefin Roberts wrth golwg360.

“Mae’r ffordd mae o’n chwarae ar odlau – yn odli ‘do ya’ a ‘Hallelujah’ – yn arwyddo o’i dalent anhygoel fel bardd, dim pawb fasa’n medru gwneud hynny.

“Ond wnes i erioed feddwl am addasu un o’i ganeuon o i gôr, tan i mi glywed trefniant côr arall ohoni”.

Bu Côr Glanaethwy yn canu fersiwn Gymraeg o ‘Hallelujah yn ffeinal y rhaglen deledu Britian’s Got Talent y llynedd ac mae Cefin Roberts wedi penderfynu rhoi teitl y gân yn enw ar eu halbym newydd.

“Mi fyddwn ni’n rhyddhau ein CD newydd mewn pythefnos ac mi ydan ni wedi ei galw hi’n Haleliwia – dyna fydd ein teyrnged fach ni i Leonard Cohen,” meddai.