Criw Canolfan Gerdd William Mathias - Bernii Owen yw'r trydydd o'r chwith ac Elinor Bennett sy'n codi bawd.
Mae canolfan gerdd yng Nghaernarfon wedi derbyn nawdd o £7,000 er mwyn gwella ei stoc o offerynnau cerdd ac uwchraddio ei chyfleusterau dysgu.

Daw’r arian o gronfa’r Loteri Genedlaethol fel rhan o ymgyrch ‘Diolch Cymru’ – sy’n rhoi cyfle i bobol sy’n prynu tocyn loteri yn rheolaidd gael dysgu mwy am y prosiectau sy’n gweld budd o’r gronfa.

Fe gyflwynwyd y siec i un o sylfaenwyr Canolfan Williams Mathias, y delynores Elinor Bennett, ond heb yn wybod iddi fe ffilmiwyd y cyfan gan griw teledu oedd yn smalio ffilmio rhaglen ar waith y ganolfan.

Bernii Owen o Lanfair Pwll Gwyngyll oedd yn cyflwyno’r siec i Elinor Bennett yn Galeri.

“Roedd hi mor gyffrous trosglwyddo’r amlen i Elinor a disgwyl iddi ddarllen y cynnwys,” meddai Bernii Owen.

“Roedd hi wrth ei bodd ac mor ddiolchgar. Sôn am wenu a chofleidio mawr – profiad emosiynol tu hwnt a dweud y gwir.”

Dywedodd Elinor Bennett: “Yn ogystal â buddsoddi mewn mwy o offer, bydd y cyllid yn ein galluogi i gynnal rhagor o ddosbarthiadau ar draws y gogledd-ddwyrain hefyd, a chreu cysylltiadau â mwy o gymunedau.”