Ail-adeiladu Llys Rhosyr yn Sain Ffagan
I gyd-fynd â’r gwaith o ail-adeiladu Llys Rhosyr Tywysogion Gwynedd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, mae gwahoddiad i drigolion Ynys Môn gymryd rhan mewn opera newydd sbon wedi’i hysbrydoli gan y tywysog Llywelyn Fawr.

Mae’r project gan Amgueddfa Cymru yn annog corau lleol, ysgolion, grwpiau oedolion a chymdeithasau hanesyddol i ymuno ag unawdwyr proffesiynol, actorion ac offerynwyr i berfformio’r opera ar safle gwreiddiol Llys Rhosyr ar Ynys Môn.

Bydd yr opera yn mynd ar daith o gwmpas Cymru yn 2017 gyda’r perfformiad olaf yn safle Llys Llywelyn yn Sain Ffagan wedi i’r gwaith gael ei gwblhau.

Bydd opera Gymraeg a Saesneg yn cael eu creu a bydd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y gymuned leol dros y flwyddyn nesaf.

Camu i esgidiau Llywelyn Fawr

Dywedodd Owain Rhys, ar ran Amgueddfa Cymru, “Bwriad y project hwn yw ymgysylltu â’r gymuned leol yn Ynys Môn a’u hannog i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn. Mae Llys Llywelyn yn cael ei ail-greu yn Sain Ffagan, ac rydym yn awyddus i rannu ein dealltwriaeth newydd gyffrous o fywyd Llys Rhosyr.

“Wrth berfformio ger y safle gwreiddiol yn Niwbwrch, bydd cyfle i’r cyfranwyr gamu i esgidiau Llywelyn ei hun; mae ein opera gymunedol yn ffordd wych o wneud hyn.”

Mae’r project hwn i ail-greu’r neuadd fawr a adeiladwyd  o’r drydedd ganrif ar ddeg  ymhlith y projectau archaeolegol mwyaf cyffrous a heriol a welwyd yng Nghymru.

Mae’r gwaith yn parhau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar broject ailddatblygu mwyaf yr Amgueddfa erioed.

Bydd cyfres o weithdai wedi’u trefnu ar gyfer pobl leol ar draws Ynys Môn o ddydd Mawrth, Tachwedd 8 i ddydd Gwener, Tachwedd 12.